Croeso i Gylch y Graig - cylch gofal plant meithrin cyfrwng Cymraeg sydd wediโ€™i leoli yn Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd. Mae gennym leoedd i blant rhwng 2.5 oed ac oedran ysgol. Rydym yn agored 4 bore o'r wythnos (Dydd Llun - Dydd Iau) yn ystod amser tymor.

Maeโ€™r Cylch yn lleoliad gofal plant gofalgar gydag ardaloedd y tu fewn a thu allan. Rydym yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru ac yn anelu at greu amgylchedd dysgu cadarnhaol, gan gefnogi plant i ddod yn ddysgwyr uchelgeisiol, sy'n gyfranwyr creadigol ac yn unigolion iach a hyderus!

Os yw eich plentyn chi yn 3 neu 4 oed gallwch ddefnyddio eu nawdd blynyddoedd cynnar neuโ€™r cynnig gofal plant a ariennir i dalu am sesiynau. Cysylltwch neu dewch i mewn i'n gweld er mwyn cael dysgu rhagor.

Cysylltwch รข ni

Gweithgareddau: 

Rydym yn dilyn y Cwricwlwm i Gymru, gan gefnogi plant i ddod yn:

  1. Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau.

  2. Cyfranwyr mentrus, creadigol syโ€™n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.

  3. Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru aโ€™r byd.

  4. Unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Mae pob plentyn yn unigryw a byddwn y gweithio tuag at y pedwar diben drwy gyflwyno pum llwybr datblygu, Sef : Perthyn, Cyfathrebu, Archwilio, Datblygiad Corfforol a Llesiant. Bydd Staff Y Cylch yn cyflwynoโ€™r cwricwlwm i blant trwy baratoi profiadau a chyfleoedd sydd yn hwyliog ac yn heriol. Mae gennym โ€˜bolisi drws agoredโ€™ - bydd arweinydd y Cylch yn hapus i drafod datblygiad ac anghenion eich plentyn gyda chi.

Oriau / Ffioedd

Dydd Llun i Ddydd Iau yn ystod tymor yr ysgol (gweler dyddiadauโ€™r tymor: Dyddiadau tymor ysgol | Cyngor Sir Ddinbych)

Gallwch ddewis o 3 sesiwn ar gyfer eich plentyn:

Ar agor dydd Llun i ddydd Gwener

Oriau addysg: 9yb-11yb (ยฃ10)

Bore: 8.30yb-1yp (ยฃ20)

Goal cofleidiol meithrin bore: 8.30yb-9yb a 11.30-3yp (ยฃ20)

Dechrau buan: 8yb-8:30yb (ยฃ5)

Diwrnod llawn: 8.30yb- 3yp (ยฃ32.50) 

Mae'r ffioedd hyn yn unol รข chyfraddau Llywodraeth Cymru ac yn cael eu gwerthuso yn flynyddol. 

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (oโ€™r tymor ar ol iโ€™ch plentyn droiโ€™n 3 oed). 

Mae 30 awr yn cynnwys:

Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth

Lleoliad 

Cylch Meithrin Y Graig,

Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd,

Llanfair Dyffryn Clwyd,

Rhuthun,

Sir Ddinbych,

LL15 2RU

  • Sam

    Rwy'n byw yn Rhuthun gyda fy mhartner a'n dwy ferch. Dechreuais weithio yn Cylch Y Graig yn mis Medi 2023 ond mae gen i 18 mlynedd o brofiad mewn gofal plant. Mae gen i Lefel 5 mewn Gofal Plant (Rheoli) a Lefel 3 Gwaith Chwarae. Gofal plant yw fy angerdd. Rwy'n mwyhnau gwylio plant yn tyfu ac yn datblygu gyda ni cyn cychwn ar eu taith ysgol.

  • Menai

    Rwyโ€™n byw yn Rhuthun ac mae gen i ddau o blant a pedwar o wyrion.

    Mae gennyf Lefel 3 mewn Gofal a Datblygiad plant a, dros amser, wedi gweithio mewn gosodiadau gwahanol gyda plant infanc. Rwyf wedi gweithio yn Cylch y Graig ers Medi 2023 ac yn mwynhau gweithio gydaโ€™r plant a bod yn rhan oโ€™r tim sydd yn cael hwyl ac sydd bob amser yn brwydfrydig.

  • Dani

    Cynorthwyydd

    Helo, Dani dw i. Rwy'n gynorthwyydd Cylch a dwi'n gweithio tuag at fy gymhwyster Lefel 3 mewn Gofal a Datblygiad Plant ac rwy'n dysgu Cymraeg fel fy nhrydedd iaith. Rwy'n mwynhau gweithio gyda'r plant a gweld eu meddyliau creadigol yn eu chwarae. Rwyf wedi bod yn gweithio yng Nghylch Y Graig ers Mai 2023 ac mae gen i brofiad o weithio mewn meithrinfa. Rwy'n byw yn Llanfair gyda fy ngwr a 2 o blant.

  • Neisha

    Cynorthwyydd

    Dwi'n byw yn lleol a rydw i wedi bod yn gweithio yn Cylch y Graig ers Tachwedd 2023, dwi'n gweithio tuag at fy lefel 2 mewn gofal a'r datblygiad plant, a rydw i'n gallu siarad Cymraeg yn rhygl. Dwi'n hoffi gweithio gyda'r plant ac yn mwynhau gwylio nhw yn dysgu ac yn datblygu trwy eu chwarae.

  • Anita

    Cynorthwyydd

    Rwyโ€™n nyw yn Rhuthun gyda fy mhartner a fy merch. Rwyโ€™n gynorthwydd Cylch a mae gennyf Lefel 3 mewn Gofal a Datblygiad Plant a Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae. Rwyf wedi gweithio yn Cylch Y Graig ers Medi 2024 ac wedi gweithio o fewn gofal plant ers 20 mlynedd. Dwiโ€™n hoffi gwiethio gydaโ€™r plant aโ€™i gwylio nhyโ€™n tyfu ac yn ymdrechu i ddod a phositifrwydd iโ€™r gweithle.

Cysylltwch รข ni.

ebost: cylchygraig@gmail.com